Sut i weithredu strategaeth rheoli talent

Os yw’ch cwmni yn cael problemau o ran recriwtio a chadw’r bobl iawn efallai mai strategaeth rheoli talent yw’r hyn sydd ei angen arnoch i gryfhau’ch gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. Darllenwch ymlaen i gael gwybod ble i ddechrau.

Rheoli’ch brand

Dylech gael ymwybyddiaeth o sut mae brand y cwmni yn cael ei weld. A yw’n cael ei ystyried fel busnes sy’n cynnig gyrfa gynaliadwy a llewyrchus? Cofiwch fod technoleg bellach yn chwarae rôl allweddol o ran sut mae pobl yn gweld ac yn ymgysylltu â’ch brand. Mae datblygiad y cyfryngau cymdeithasol yn golygu bod sefydlu a rheoli brand ac enw cwmni yn bosibiliad gwahanol iawn i’r hyn yr oedd yn arfer bod ac felly mae’n werth adolygu’ch presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd.

Cynllunio’r gweithlu

Mae cynllunio gweithlu modern yn gofyn am ddealltwriaeth fanwl o ragolygon strategaeth a thwf y sefydliad, yn ogystal â’r trosiant arfaethedig. Bydd dealltwriaeth glir o ble mae’r cwmni nawr, a ble mae’n mynd, yn darparu sylfaen gadarn i adeiladu cynllun gweithlu realistig a chyflawnadwy arni fydd, yn ei dro, yn ategu’ch strategaeth rheoli talent.

Adnabod eich staff

Dewch i adnabod eich cyflogeion a pharu eu hanghenion ag anghenion y busnes a’i gwsmeriaid. Dylech sefydlu system fewnol sy’n gwobrwyo a digolledu cyflogeion yn ôl eu hanghenion a’r hyn sy’n eu hysgogi. Cofiwch y rôl y gall hyfforddiant a datblygiad ei chwarae yn hyn o beth.

Datblygu a rheoli’ch staff

Cofiwch fod strategaeth rheoli talent dda yn dibynnu nid yn unig ar ddeall anghenion hyfforddiant a datblygiad staff sy’n benodol i’r swydd, ond mae hefyd yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanylach o’u potensial talent ehangach, gan gynnwys y sgiliau a’r galluoedd hynny nad ydynt yn eu defnyddio yn eu rôl bresennol. Bydd fframwaith perfformiad cadarn sy’n ystyried potensial yn ogystal â pherfformiad, ac sy’n rhoi adborth parhaus i staff,  yn eich helpu i gyflawni hyn.

Os hoffech helpu i fabwysiadu a gweithredu strategaeth rheoli talent o fewn eich busnes, cysylltwch â’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i drafod sut y gallwn eich cynorthwyo. Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn rhaglen wedi’i hariannu’n llawn sy’n gallu cynnig gwasanaeth cynllunio a datblygu gweithlu, gwasanaeth recriwtio wedi’i deilwra i’ch cwmni a, thrwy fynediad i’r ddarpariaeth ehangach sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, pecyn llawn o gyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu neu wedi’u hariannu’n rhannol.