Sut i gamu ymlaen yn eich gyrfa – Deg awgrym gan arbenigwr mewn cyflogadwyedd

P’un a’ch bod yn dechrau yn y byd gwaith neu mae’ch swydd bresennol yn mynd ychydig yn ddiflas, gall ychydig o ysgogiad eich helpu i symud ymlaen ar eich llwybr gyrfa dewisol. Dyma ddeg awgrym ar sut y gallwch chi gamu ymlaen yn y gweithle gan Cath Jenkins, Rheolwr Rhaglenni a Phartneriaethau Cyflogadwyedd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, sef menter Coleg Gŵyr Abertawe sy’n darparu cefnogaeth i bobl ar draws y ddinas sy’n chwilio am gyflogaeth newydd neu gyflogaeth well. 

Yn yr hinsawdd swyddi sydd ohoni, mae’n hollbwysig meithrin set o sgiliau da, gan sicrhau y byddwch yn dod ac yn aros yn aelod gwerthfawr o’ch tîm. Mae pawb yn hoffi cael canmoliaeth am eu cyfraniad at swydd, ac mae boddhad mawr i’w gael o wybod bod eich gwaith yn eich tywys i ble yr hoffech chi fod yn eich bywyd proffesiynol. Gyda’r deg awgrym hyn, gallwch sefydlu seiliau gyrfa cadarn a rheoli dilyniant eich gyrfa mewn ffordd ragweithiol, gan weithio tuag at ddatblygu mewn swydd rydych yn dwlu arni. 

Peidiwch byth â bod ofn i ofyn am gymorth

Byddwch yn gyffyrddus yn eich sgiliau chi’ch hun; rydych chi wedi gweithio’n galed i fod yn dda yn yr hyn rydych yn ei wneud. Fodd bynnag, os nad ydych chi’n siŵr o rywbeth, dywedwch hynny! Mae’ch cyflogwyr yno i’ch cefnogi yn eich gyrfa, a byddant yn gwerthfawrogi’ch gonestrwydd. Wedi’r cwbl, os ydych chi’n hapus, byddwch chi’n fwy cynhyrchiol.

Byddwch yn unigolyn sy’n hawdd siarad â chi

Gwnewch ymdrech gyda’ch cydweithwyr. Rydych chi’n eu gweld nhw bob dydd a does dim byd i’w golli wrth fod yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atoch chi. Ceisiwch roi cymorth pryd bynnag y bo’n bosib. Mae pawb yn dwlu ar rywun sy’n gallu gweithio’n dda mewn tîm, ac mae cyfnewid sgiliau’n ffordd wych o amlygu’r ffaith eich bod chi’n ddibynadwy ac yn agored i rannu meddyliau a syniadau.

Byddwch yn agored i newid

Yn ôl ymchwil ddiweddar, rydym yn treulio’n agos i 90,000 o oriau o’n bywydau yn y gwaith. Felly gall fod yn gythryblus os oes newidiadau yn eich gweithle. Ceisiwch fynd gyda’r llif ac addasu gorau y gallwch. Bydd eich brwdfrydedd am lwyddiant y cwmni’n talu ar ei ganfed.

Byddwch ar flaen y gad

Os yw’ch cyflogwr yn cynnig unrhyw gyrsiau neu ddiwrnodau hyfforddiant, gwirfoddolwch i gymryd rhan. Nid yn unig y bydd hwn yn dystiolaeth o’ch ymrwymiad i’r swydd, byddwch hefyd yn dysgu sgiliau gwerthfawr a fydd yn rhoi mantais fawr i chi. Y tu allan i hyfforddiant, sicrhewch eich bod yn dilyn y tueddiadau a’r newyddion diweddaraf yn eich diwydiant. Mae cyfryngau masnachol ar gael i bron pob sector ac mae’n werth diweddaru’ch gwybodaeth.

Magwch brofiad

Er y bydd cymwysterau’n ofyniad hanfodol i lawer o swyddi, mae profiad yn aml iawn o werth cyfartal. Nid yn unig a yw’n rhoi mewnwelediad i chi i realiti bywyd gwaith, mae hefyd yn eich darparu â gwybodaeth sylfaenol am y diwydiant yr hoffech fod yn rhan ohono. Yn ôl UCAS, mae traean o gyflogwyr yn teimlo nad oes gan ymgeiswyr lefel foddhaol o wybodaeth am eu gyrfa neu eu swydd ddewisol, felly os ydych chi’n gwybod yr hyn sy’n sylfaenol o leiaf, bydd yn eich rhoi mewn sefyllfa dda yn y dyfodol.

Rhwydweithio

Ydy, mae hyn yn hen un – mae yna reswm pam mae pobl o hyd yn canmol pŵer rhwydweithio. Mae’r wybodaeth y gallwch ei chasglu gan sefyllfa sy’n ymddangos i fod y gymharol anffurfiol heb ei hail, a gallwch wneud cysylltiadau gwerthfawr yn eich maes (a’r tu hwnt iddo). Mae’n ffordd wych o gael cyngor, clywed am gyfleoedd a meithrin perthnasoedd na fyddwch chi wedi’u cael fel arall. Os nad unrhyw beth arall, mae’n gyfle i gael paned a sgwrs!

Gwybod y gwahaniaeth rhwng eich bywyd personol a phroffesiynol

Rydym yn byw mewn byd o dargedau a dyddiadau cau ac, yn anffodus, efallai y bydd angen mynd â gwaith adref gyda chi o bryd i’w gilydd. Mae cael cydbwysedd bywyd gwaith a chartref yn hollbwysig i nid yn unig eich lles, ond hefyd i’ch gyrfa. Dewch o hyd i amser i fwynhau agweddau eraill ar eich bywyd, a byddwch yn gallu canolbwyntio’n well pan fyddwch yn cerdded i mewn i’r gwaith y diwrnod canlynol gyda meddwl clir a phersbectif ffres.

Gwybod lle rydych chi am fod

Does dim pwynt trio symud ymlaen os nad ydych chi’n gwybod yr hyn rydych chi’n anelu ato. Cymerwch amser i ystyried yn union yr hyn rydych chi am o’ch swydd. Oes dyrchafiad ar gael a fyddai’n berffaith i chi? Efallai fod yna swydd yr hoffech chi weithio tuag ati ymhen ychydig o flynyddoedd wrth i chi ddysgu a thyfu yn eich diwydiant dethol. Gwnewch restr o bum peth yr hoffech chi iddynt ddigwydd yn eich gyrfa a lluniwch gynllun i gyrraedd yno.

Lleisiwch eich barn

Os oes gennych chi syniad gwych ar yr hyn y dylai’ch cwmni ei wneud nesaf, dywedwch wrth rywun! Ni waeth ei fod yn cytuno â chi neu’n anghytuno, mae’n sbarduno sgwrs ynghylch eich gwaith. Mewn cyfarfodydd, siaradwch ac ymgysylltwch â’r hyn y mae eraill yn ei awgrymu. Mae’n dangos eich bod chi’n unigolyn sy’n gwrando, a bydd pobl yn fwy tebygol o am glywed yr hyn sydd gennych chi i’w ddweud. Mae lleisio barn yn galluogi’ch cyflogwyr i’ch ystyried yn rhywun arloesol a chreadigol, a byddwch yn fwy tebygol o ddisgleirio ymhlith y dorf.

Byddwch yn hyderus

Does neb yn hoffi rhywun sy’n ymffrostio, ond nid yw’n gwneud niwed i fod yn hyderus yn eich galluoedd. Os ydych chi’n un gwych am ddatrys problemau, gwirfoddolwch eich syniadau ar bwnc y mae’ch cwmni neu’ch tîm yn eu cael yn anodd. Os ydych chi’n disgleirio wrth gyfathrebu, gadewch i’ch rheolwr wybod eich bod yn hapus i arwain cyfarfod. Fyddwch chi ddim yn y swydd pe na fyddai’r gallu gyda chi, ac mae’ch rheolwr yn fwy nag ymwybodol o hyn. Atgoffwch eich hunan o’r ffaith honno’n barhaus a bydd yn haws i gamu ymlaen yn eich gyrfa.