Sean 

Daeth Sean i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod yn ddiwaith am 8 mis ar ôl i’w gontract blaenorol yn y sector adeiladu ddod i ben. Yn ystod y cyfnod hwn dioddefodd Sean rai problemau iechyd a olygai nad oedd yn gallu gwneud y gwaith gyda llaw roedd wedi ei adnabod a’i garu bob amser. Erbyn yr amser y daeth i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol roedd Sean wedi bod allan o waith am fwy nac yr oedd wedi gobeithio ac roedd ar bwynt heriol iawn yn ei fywyd, gan ddioddef o hyder isel, hunan-barch gwael ac yn teimlo’n eithaf anobeithiol am ddyfodol ei deulu.

“Roeddwn i ar bwynt isaf fy mywyd pan wnes i gyfarfod  â Bev. Y cyfarfod cyntaf hwnnw oedd y trobwynt yn bendant i mi.” – Sean

Gwyddai Sean gyda’i holl galon ei fod yn dymuno aros yn y sector adeiladu ac roedd yn gobeithio sicrhau math tebyg o rôl, cyhyd ag oedd yn gorfforol bosibl. Gyda chefndir mewn Iechyd a Diogelwch, roedd Sean hefyd yn agored i archwilio dewisiadau newydd ac o bosibl dilyn gyrfa yn y maes hwn; fodd bynnag roedd ei ddiffyg cymwysterau Iechyd a Diogelwch ffurfiol yn rhwystr dechreuol. Awgrymodd yr Hyffordwraig Gyrfa Bev gwrs NEBOSH a neidiodd Sean at y cyfle. Gwnaeth gynnydd rhyfeddol yn gyflym, gan gwblhau ei hyfforddiant ac ennil ei gymhwyster yn llwyddiannus.

Union nod nesaf Sean oedd sicrhau cyflogaeth barhaol. Gan weithio’n agos gyda Bev, gweithiodd Sean ar ddiweddaru a gwella ei CV a threuliodd amser hefyd yn dysgu sut i ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus oedd yn arddangos ei gyfoeth o sgiliau a phrofiad.

“Roedd gan Sean agwedd ryfeddol o gadarnhaol ac roedd yn canolbwyntio bob amser ar ei nodau. Daeth yn llawer mwy hyderus a phendant ac rwyf mor falch o fod wedi ei helpu i wneud cynnydd ystyrlon yn ei yrfa, sydd rwy’n gwybod yn mynd i drawsnewid ei fywyd.”  – Bev

Dangosodd Sean ddyfalbarhad gwych yn ei amser yn gweithio gyda Bev a gwnaeth gynnydd arwyddocaol yn gyflym. O ganlyniad i’r gefnogaeth, mynediad at hyfforddiant a sgiliau cyflogadwyedd a ganfuwyd o’r newydd ganddo, sicrhaodd Sean swydd yn llwyddiannus fel Rheolwr Monitro a Chloddio i gwmni yn arbenigo mewn symud Canclwm Japan. Mae hyn yn gamp rhyfeddol i Sean ac mae ei lwyddiant yn adlewyrchiad o’i benderfyniad i lwyddo, er gwaetha’r siomedigaethau a heriau y mae wedi ei hwynebu.

“Fyddwn i ddim yn y sefyllfa dw i ynddi nawr oni bai am Bev a thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Roedd Bev yn fy nghymell bob amser I ddyfalbarhau pan deimlwn na allwn wynebu ffurflen gais arall. Ar ôl siarad â hi roeddwn i’n teimlo’n fwy cadarnhaol bob tro. Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi fy nghefnogi nid yn unig i ennill cymhwyster angenrheidiol iawn ond helpodd adeiladu fy hyder eto.Rwy’n teimlo nawr fel y galla i edrych ymlaen i’r dyfodol ac uwchlaw popeth darparu ar gyfer fy nheulu eto. Allwn i ddim fod wedi gwneud hynny heb Bev. Diolch.” – Sean