Lorraine

Daeth Lorraine i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cefnogaeth wrth ddod o hyd i gyflogaeth amgen ar ôl cael trafferth wrth ddod o hyd i sefydlogrwydd a diogelwch yn ei swydd bresennol a swyddi blaenorol. Roedd Lorraine yn chwilio am swydd weinyddu’n benodol, ac roedd hi’n canolbwyntio’n llwyr ar yr hyn roedd hi am ei gyflawni a’r math o gefnogaeth cyflogadwyedd a oedd ei hangen arni.

“Ymddiriedolaeth Shaw wnaeth awgrymu fy mod i’n dod i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Doedd dim clem gen i fod y lle hyd yn oed yn bodoli oherwydd roeddwn i’n meddwl bod Coleg Gŵyr dim ond yn gweithio gyda myfyrwyr.” – Lorraine

Gan weithio’n agos gyda Hyfforddwyr Gyrfa Ange ac Ade, cafodd Lorraine gefnogaeth wrth chwilio am swyddi mewn ffordd graff ac effeithiol, gyda ffocws cryf ar ddod o hyd i swydd y gallai deimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn fodlon ynddi. Daeth Lorraine yn graff wrth chwilio am swyddi’n gyflym a dechreuodd fagu llawer o hunangred wrth iddi lunio ei llwybr personol tuag at gyflogaeth yn ddyfal.

“Mae Angela ac Ade wedi bod yn wych, roedd eu cefnogaeth yn benigamp” – Lorraine

Yn ogystal â chefnogaeth wrth chwilio am swyddi, gweithiodd Lorraine hefyd ar fireinio ei CV a gwella ei gallu i ysgrifennu ceisiadau. Ymgymerodd Lorraine hefyd â ffug gyfweliadau niferus er mwyn magu hyder ac ymgyfarwyddo â rheoli ei nerfusrwydd er mwyn cyflwyno ymatebion cadarn ac ystyriol mewn sefyllfaoedd â phwysau mawr.

“Mae pawb wedi bod mor gefnogol, yn gyfeillgar ac yn llawn cymorth. Ces i help gyda phopeth, gan gynnwys fy CV, chwilio am swyddi ac ymarfer ar gyfer cyfweliadau – dw i hyd yn oed wedi cael help i adnewyddu fy sgiliau Excel gan Ade!” – Lorraine

Drwy weithio gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, mae Lorraine wedi datblygu ei sgiliau, ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth a’i pharodrwydd i wrando a dysgu’n sylweddol, ac arweiniodd ei hagwedd gadarnhaol at gael swydd weinyddu yn gyflym iawn at swydd weinyddu yn adran Cyllid Allanol Coleg Gŵyr Abertawe.

Pan ddes i yma, roedd fy hyder yn hynod isel oherwydd cyfuniad o bethau sydd wedi digwydd yn fy mywyd, ond mae pawb yma wedi fy helpu i ddod trwy’r cyfnod anodd a dod yma yw un o’r pethau gorau dw i wedi gwneud erioed. Dw i mor gyffrous am y dyfodol, waw! Dw i’n gyffrous iawn am fy swydd newydd ac mae pobl yn meddwl fy mod i off fy mhen achos alla i ddim ag aros am fore dydd Llun!” – Lorraine

Mae Lorraine yn gwneud cynnydd gwych yn ei swydd newydd ac mae’n parhau i ddangos ei hysgogiad a’i hymrwymiad i hunanwella: “Mae Lorraine wedi ymgartrefu yn y tîm yn dda iawn ac mae wedi cael effaith yn syth gyda’i gwaith caled a’i hymroddiad. Dw i’n hynod falch ein bod ni wedi gallu rhoi’r cyfle hwn iddi ac, wrth wneud hynny, chwarae rhan yn llwyddiant parhaus rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol y Coleg.” – Simon Jenkins, Rheolwr Cyllid Allanol

Heb os, mae Lorraine wedi trawsnewid o ran ei hyder a’i hagwedd, ac er gwaethaf amgylchiadau heriol parhaus, mae Lorraine yn dyst gyda’r gefnogaeth iawn, gellir llwyddo i gael canlyniad da.

“Mae pawb yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn hynod falch o Lorraine ac rydym ni wrth ein boddau ei bod hi wedi dod o hyd i gyflogaeth. Mae’n hollol wych a dymunwn bob lwc yn y byd iddi!” – Ange, Hyfforddwr Gyrfa