Jordan

Roedd Jordan yn fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn astudio cyrsiau Safon Uwch ochr yn ochr â chwrs AAT Lefel 3 pan ddaeth i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Nid oedd gan Jordan unrhyw brofiad blaenorol o gyflogaeth, ond roedd wedi gwirfoddoli ochr yn ochr â’i gwrs coleg i godi arian ar gyfer bwyty dielw yn ogystal â phrosiect coleg yn Cenia, gan sicrhau bod plant yn cael mynediad i addysg.

Gwnaeth Jordan gais i ymuno ag ‘Academi’r Dyfodol’ yn y Coleg: rhaglen i ddatblygu llwybr cyflogaeth unigol i fyfyrwyr sy’n ceisio symud ymlaen yn syth i gyflogaeth neu brentisiaeth ar ôl cwblhau eu hastudiaethau Safon Uwch. Rhoddwyd gwybodaeth i fyfyrwyr am y farchnad lafur bresennol a’r dyfodol, a gwahanol lwybrau cyflogaeth, gyda chyfraniad gan siaradwyr gwadd a chyflogwyr blaenllaw. Fe’u cefnogwyd hefyd trwy amrywiaeth o weithgareddau grŵp ac un-i-un i ddrafftio CVs a cheisiadau am swyddi, ac i baratoi ar gyfer cyfweliadau, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o fyd gwaith.

“Roeddwn i’n falch iawn pan glywais i y gallwn ymuno â’r academi ac y gallen nhw roi cymorth i fi. Roeddwn i eisiau cymorth yn arbennig gyda’m technegau cyfweliad a dywedodd Dave y byddai hyn yn rhywbeth y gallen ni ei wella gyda’n gilydd” – Jordan

Roedd Jordan wedi gweithio’n agos gyda’r Hyfforddwr Gyrfa Dave, a, gyda’i gilydd fe wnaethon nhw gynnal cyfweliadau ffug, ymarfer cwestiynau ac ymatebion priodol. Roedd Dave wedi helpu Jordan i ddatblygu strategaethau ymdopi i ddelio â senarios cyfweliadau posibl, gan gynyddu ei hyder a’i gymhwysedd. Roedd yn amlwg bod paratoi yn mynd i fod yn allweddol i lwyddiant Jordan yn y cyfweliad ac roedd wedi gweithio’n galed i wella ei sgiliau.

Dechreuodd Dave a Jordan chwilio am gyfleoedd gwaith addas yn y sector cyllid. Heb unrhyw gyfeiriad go iawn na chynllun gyrfa, roedd Dave wedi helpu Jordan i fapio ei lwybr unigol i gyflogaeth, gan sicrhau bod yr holl opsiynau a llwybrau yn cael eu harchwilio.

“Doedd dim llawer o hyder gan Jordan yn y cyfweliad ond roedd ganddo’r holl rinweddau eraill sydd eu hangen i lwyddo. Roedd yn bleser gweithio gyda fe oherwydd mae e bob amser wedi bod â meddwl agored ac yn barod i dderbyn y cymorth rydyn ni’n ei roi iddo fe. Gyda meddylfryd mor gadarnhaol, roeddwn i’n gwybod y bydden ni’n cael hyd i’r cyfle iawn iddo fe yn fuan”- Dave

Roedd Jordan yn rhagweithiol o ran ei ymagwedd at y sesiynau un-i-un a gafodd gyda Dave, a, gyda’i gilydd gwnaethant gynhyrchu CV trawiadol oedd yn barod i’w ddosbarthu i ddarpar gyflogwyr. Gan deimlo’n fwy hyderus yn ei allu ac yn barod i ymgymryd â her newydd, penderfynodd Jordan wneud cais am rôl weinyddol gyda darparwr gwasanaeth rhyngwladol sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau i grŵp amrywiol o gwsmeriaid yn y diwydiannau telathrebu, TG a manwerthu. Roedd Jordan wedi perfformio’n eithriadol o dda yn y cyfweliad a chafodd gynnig Prentisiaeth Gweinyddu Busnes yn fuan. Mae Jordan wedi gwneud cynnydd sylweddol ers ymuno â’r academi ac mae wedi profi, gyda’r cymorth gyrfa a chyflogadwyedd cywir ynghyd â gwaith caled ac ymrwymiad, y gallwch chi wir fanteisio ar unrhyw gyfle sy’n dod i chi.

“Dwi’n hynod ddiolchgar am gymorth y rhaglen ac yn ddiolchgar am y cyfle i gael fy nghyfweld am fy rôl newydd. Mae’n deimlad mor wych i fod yn llwyddiannus o ran sicrhau swydd roeddwn i wir eisiau ei chael, a dwi bellach yn teimlo’n llawer mwy hyderus yn fy ngallu ac yn yr hyn y galla i ei gyflawni yn y dyfodol” – Jordan