Gyrrwr Cerbydau Nwyddau Trwm

Abertawe – lleoliadau amrywiol
Yn dibynnu ar brofiad
40 awr yr wythnos
17/02/2020

Rydym yn chwilio am yrrwr C1 i ymuno ag un o dimoedd gorau’r DU o ran cynhyrchu a gosod waliau, gwydr, ffenestri a drysau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dosbarthu a chasglu nwyddau i’r/o’r ffatri i/o safleoedd amrywiol. Mi fydd gan yr ymgeisydd delfrydol drwydded yrru C1 (lân), CPC a phrofiad o yrru cerbydau masnachol. Mi fydd hefyd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac angerdd am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog.

 

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ymgeisio ar gyfer y rôl, ffoniwch 01792 284450 neu e-bostiwch info@betterjobsbetterfutures.wales.

Cyfeirnod y Swydd: DP208