Gwirfoddoli – rhowch gynnig arni!

Bydd unrhyw un sydd wedi rhoi o’i amser er budd achos da yn gwybod pa mor wych mae’n gallu teimlo i wneud cyfraniad gwerthfawr. Ond wyddech chi y gall gwirfoddoli gynnig nifer o fanteision personol a phroffesiynol eraill i bobl? Rydym ni wedi llunio rhestr gyflym o’r hyn a allai gwirfoddoli ei wneud i chi a’ch gyrfa, felly darllenwch ymlaen a rhowch gynnig arni!

Hyder

Mae gwirfoddoli’n gyfle gwych i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon sy’n gallu rhoi gwir ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad i chi. Mae gwneud pethau da i eraill a’r gymuned yn gallu rhoi ymdeimlad o lwyddiant i chi a gall eich helpu i fabwysiadu barn fwy cadarnhaol ohonoch chi’ch hun ac eraill. Y gwell y byddwch yn teimlo amdanoch chi eich hunan, mwyaf tebygol ydych chi i gael barn gadarnhaol o’ch bywyd a’ch amcanion ar gyfer y dyfodol, a gall gwirfoddoli roi’r hwb i’ch hunanhyder rydych chi wedi bod yn chwilio amdano.

Cysylltiadau

Mae gwirfoddoli’n gyfle i chi wneud ffrindiau newydd, ehangu’ch rhwydwaith a datblygu’ch sgiliau cymdeithasol. Gall gymryd rhan mewn gweithgaredd ar y cyd greu perthnasoedd ystyrlon â’r bobl o’ch amgylch, ac mae gwirfoddoli yn eich agor lan i bobl â diddordebau tebyg. Gallwch gwrdd â phobl newydd, siarad â nhw a dod i’w hadnabod – dydych chi byth yn gwybod pwy y byddwch yn dod mewn i gysylltiad â nhw a sut y gallwch chi eu helpu neu, yn bwysicaf oll, sut y gallen nhw eich helpu chi.

CV

Mae cynnwys gwirfoddoli ar eich CV, yn yr un ffordd â swyddi â thâl, yn ffordd wych o greu argraff dda ar recriwtwyr gyda’ch profiad a’ch brwdfrydedd am ddiddordebau gwahanol. Os nad unrhyw beth arall, mae gwirfoddoli’n dangos eich bod chi’n rhagweithiol, yn ymroddedig i achos ac yn fodlon gweithio’n galed, ac mae’r rhain oll yn sgiliau trosglwyddadwy hynod werthfawr y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn unrhyw ymgeisydd!

Os hoffech chi gyngor ar sut i roi hwb i’ch sgiliau a’ch profiad chi drwy wirfoddoli, neu unrhyw ffurf arall ar gefnogaeth ar gyfer cyflogadwyedd, cysylltwch â’r tîm heddiw: 01792 284450.