Danuta

Daeth Danuta i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar ôl bod yn ddiwaith am ddwy flynedd. Wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn magu ei phlant, a’i merch ifancaf ar fin mynd i’r ysgol yn llawn amser, penderfynodd Danuta mai nawr oedd yr amser perffaith i ailymuno â byd gwaith.

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, roedd Danuta wedi gwneud gwaith warws ond teimlai’n gryf am sicrhau rôl wedi’i chanolbwyntio’n fwy ar bobl  a chefnogaeth lle y gallai ddefnyddio ei sgiliau yn llawn. Wrth gael trafferth i ddod o hyd i’r cyfle iawn, dechreuodd Danuta weithio gyda’r Hyfforddwraig Gyrfa Bev, gan drafod ei dewisiadau a dechrau llunio ei llwybr unigol at gyflogaeth.

Yn ogystal â chwilio am gyflogaeth, roedd Danuta yn gweithio’n galed i wella ei sgiliau iaith Saesneg wrth gymryd ei chymhwyster ESOL lefel 1. Roedd Danuta yn benderfynol o ddal i wthio ei hun ymlaen a dangosai ymrwymiad llwyr bob amser i’w hunanwelliant. Gweithiodd Bev a Danuta gyda’i gilydd ar wella ei CV, gan ei gwneud mor broffesiynol â phosibl, yn ogystal â gwella ei gallu i chwilio am swydd yn effeithiol. Roedd Danuta  yn barod iawn i dderbyn y gefnogaeth a gai bob amser:

Roeddwn i wrth fy modd yn dod i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ac roeddwn i’n cael fy nghroesawu, cefnogi ac annog i gyflawni  fy nod o ddod o hyd i swydd bob amser” – Danuta

Roedd Danuta yn agored i awgrymiadau bob amser pan ddaeth yn fater o chwilio am swydd, ond roedd yn awyddus i ddarganfod rôl a ddefnyddiai sgiliau pobl gwych Danuta a’i phersonoliaeth gyfeillgar a brwdfrydig. Trafododd Bev a Danuta’r syniad o ddilyn gyrfa mewn gofal, gan fod gan Danuta yr holl sgiliau gofynnol a chymaint mwy i’w gynnig yn y fath rôl:

Mae gan Danuta bersonoliaeth ryfeddol ac roeddwn i’n gwybod y byddai hi’n ardderchog mewn rôl cynorthwy-ydd gofal. Mae hi’n gyfeillgar, cynnes ac mae ganddi synnwyr digrifwch gwych. Roeddwn i’n gwybod na fyddai’n cymryd yn hir i ddarganfod y rôl berffaith oedd yn gweddu i’w sgiliau ac a roddai’r cychwyn newydd iddi ym myd gwaith yr oedd hi’n chwilio amdano”Bev

Cymeradwyodd yr Hyfforddwraig Gyrfa Angela gyfle newydd i Bev a Danuta gyda chartref gofal lleol a oedd yn ymddangos yn bodloni’r gofynion roedden nhw’n chwilio amdanynt.  Gyda chyfarwyddyd a chefnogaeth Bev ac  Angela, gweithiodd Danuta ar ei chais, a chafodd ei hymdrechion eu gwobrwyo’n gyflym wrth iddi gael cynnig cyfweliad ac yna gwaith ar brawf. Gwnaeth Danuta argraff ar y cyflogwr ar ddau gam y broses a chafodd gynnig swydd ran-amser y diwrnod canlynol.

Rwyf wrth fy modd o gael y swydd newydd hon ac wedi fy ngyffroi gymaint o fod yn gweithio eto. Rwyf mor hapus fod pawb wedi bod mor gyfeillgar tuag ataf i. Diolch i chi i gyd am bopeth rydych chi wedi ei wneud” – Danuta

Mae Danuta wedi gwneud yn eithriadol o dda i sicrhau’r cyfle hwn ac rydym ni i gyd mor falch ohoni. Mae’n wych ei bod hi’n cael ei hannibyniaeth yn ôl a’i bod hi yn awr ar daith gyrfa newydd a chyffrous fydd yn gwella ei bywyd hi yn ogystal â’i theulu yn ddramatig. Llongyfarchiadau Danuta!” – Angela