Cymorth i unigolion


    Mae’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn credu mewn adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus i bawb. Rydym yn cynnig cymorth i’r canlynol:
    • Pobl ifanc 16-24 oed sy’n ddi-waith ac yn barod i weithio
    • Oedolion dros 25 oed sydd wedi bod yn ddi-waith am hyd at 12 mis
    • Pobl gyflogedig sydd ar hyn o bryd mewn gwaith ansicr neu â thâl isel
    • Menywod mewn cyflogaeth lefel-isel
    Mae ein tîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol yn darparu cymorth gwaith a gyrfa gyda’r nod o gynyddu cyfleoedd ein cleientiaid i gael gwaith, cadw gwaith a symud ymlaen yn eu gwaith. Mae ein tîm yn gweithio gyda’r holl gleientiaid yn unigol i’w paratoi i fanteisio ar gyfleoedd gwaith lleol. Mae gan bob unigolyn ei raglen cyflogadwyedd wedi’i theilwra ei hun sy’n cael ei rheoli gan hyfforddwr gyrfa penodedig.
     
    Mae cymorth arbenigol ar gael ar gyfer recriwtio a pharu â swyddi trwy ein harbenigwyr  recriwtio a rheoli talent sy’n gweithio gyda’n cleientiaid i baru’r ymgeisydd iawn â’r cyfle gwaith iawn. Rydym yn ymrwymedig i helpu pob un o’n cleientiaid i fanteisio i’r eithaf ar eu gyrfa bosibl.