Llongyfarchiadau Jacob!

Ar ôl cwblhau Academi Dyfodol – rhaglen i ddysgwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe sy’n dymuno archwilio opsiynau eraill i Addysg Uwch – mae Jacob wedi sicrhau lle i astudio Prentisiaeth Gradd Lefel 6 mewn Datrysiadau Digidol a Thechnolegol gyda Jaguar Land Rover!

Wrth drafod sut y daeth o hyd i Academi Dyfodol a sut y gwnaeth y tîm ei gefnogi i sicrhau ei rôl newydd, dywedodd Jacob:

 

“Mae bod yn rhan o Academi Dyfodol wedi fy helpu’n sylweddol i sicrhau prentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd gyda Jaguar Land Rover. Dw i wedi ennill gwell dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o brentisiaethau a’r opsiynau sydd ar gael i mi. Mae’r academi wedi gwella fy nealltwriaeth o wahanol gyflogwyr sy’n cyflogi prentisiaid a’r math o ymgeiswyr y maen nhw’n chwilio amdanyn nhw. O ganlyniad, mae bod yn rhan o’r academi wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth i mi chwilio am swyddi. Fe wnaethon nhw ddarparu gwybodaeth gefndirol i mi er mwyn i mi sicrhau fy rôl.

Mae’r cymorth un-i-un dw i wedi ei dderbyn trwy gydol y broses wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy helpu i sicrhau prentisiaeth. Do’n i erioed wedi creu CV o’r blaen ac ni feddyliais erioed am greu un. Roedd y CV enghreifftiol a ddarparwyd i mi ynghyd â’r cymorth a dderbyniais yn y cyfarfodydd yn help mawr i mi ddeall rôl CV. Fe dderbyniais hefyd wybodaeth angenrheidiol i mi greu dogfen gystadleuol. Roedd y cyfarfodydd yn ffordd hollbwysig o fy helpu i wella fy CV.

Fe wnaeth yr academi hefyd gynnal ffug gyfweliadau i fy helpu i ddeall sut brofiad fyddai ymgymryd â chyfweliad go iawn. Fe wnaeth y ffug gyfweliadau wella fy hyder o ran fy ngalluoedd a fy helpu i fesur fy nghymhwysedd a’m cynnydd. Fe wnaeth y sesiynau ymarferol fy helpu i weithio ar bethau penodol, megis fy nhuedd i siarad yn rhy gyflym a rhuthro trwy wybodaeth. Rwy’n werthfawrogol iawn o’r cymorth rydw i wedi ei dderbyn gan ei fod wedi fy helpu i gael cynigion gan nifer o gwmnïau gwahanol, lle fynychais gyfweliadau a pherfformio hyd eithaf fy ngallu.

Diolch mawr i’r tîm, yn enwedig Sarah a Julie. Roedd y tîm cyfan yn gyfeillgar ac yn galonogol, ac fe wnaeth hyn fy helpu i wneud cais am brentisiaethau cystadleuol. Roedd y tîm yn awyddus i mi lwyddo; er enghraifft, pan gefais wahoddiad gan un cwmni i gyfweliad ar fyr rybudd, fe drefnodd y tîm ffug gyfweliad i leddfu fy nerfau a gwella fy hyder. Heb amheuaeth, mae eu cymorth wedi chwarae rhan hollbwysig o fy llwyddiant.”

 

Mae sicrhau’r rôl hon yn gyflawniad anhygoel ac mae Jacob yn gyffrous i ddechrau ei brentisiaeth ym mis Medi. Llongyfarchiadau Jacob – rydyn ni’n falch iawn ohonot ti!

I gael mwy o wybodaeth am raglen Academi Dyfodol, cysylltwch â ni: futureshub@gcs.ac.uk

 

Cleientiaid Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn mynd o nerth i nerth yn Bevan Buckland

Ers lansio Gwell Swyddi. Gwell Dyfodol yn 2017, mae ein perthynas â’r Cyfrifwyr Siartredig, Bevan Buckland, wedi parhau i gryfhau. Mae’r cwmni’n darparu cyfleoedd gwych i’n dysgwyr a’n prentisiaid yn barhaus, ac maent yn cyflwyno sesiynau yn rheolaidd i rannu eu cyngor arbenigol a’u gwybodaeth am y diwydiant. Dros y 5 mlynedd diwethaf maent hefyd wedi mynychu ein Ffeiriau Recriwtio blynyddol a chynnig siaradwyr gwadd ar gyfer digwyddiadau Academi Dyfodol.

Saliem a Daniel yn 2021

Fe wnaeth Daniel a Saliem – dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe – sicrhau rolau ar Academi Hyfforddiant clodfawr Bevan Buckland yn 2021, ac mae’r ddau yn parhau i ragori ar eu gyrfaoedd. Yn fuan ar ôl hyn, cyflawnodd Saliem y ‘cylch llawn’, fel petai, wrth iddi gynrychioli Bevan Buckland yn Ffair Recriwtio Dyfodol yn 2022. Yn y Ffair Recriwtio fe wnaeth Saliem gwrdd â Lauren ac Atlanta am y tro cyntaf, myfyrwyr a fyddai’n dilyn yn ei holion traed hi trwy ymuno ag Academi Hyfforddiant  Bevan Buckland yn 2022.

Roedd Lauren ac Atlanta yn astudio BA mewn Rheoli Busnes (Cyfrifo a Chyllid) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac roedd y ddau yn awyddus i ddechrau gyrfa ym maes cyllid, felly cyrchodd y ddau gymorth gan dîm Dyfodol. Fe wnaeth Hyfforddwyr Gyrfa dynodedig eu helpu i ddod o hyd i rolau cyfrifwyr dan hyfforddiant a rhoi gwybod iddynt am weithdy cyflogwr gan Vanessa Thomas-Parry, Prif Swyddog Gweithredu Bevan Buckland. Gan ystyried bod Bevan Buckland yn un o gwmnïau cyfrifeg mwyaf y De a Gorllewin Cymru, neidiodd y ddau at y cyfle i fynychu’r gweithdy. Cafodd y merched eu hysbrydoli gan ddiwylliant ac amgylchedd y sefydliad, ynghyd â’r ystod eang o gyfleoedd dilyniant a datblygiad.

Gyda chymorth y tîm, cyflwynodd Lauren ac Atlanta geisiadau ardderchog ar gyfer Academi Hyfforddiant Bevan Buckland ac roeddent wrth eu bodd pan gynigiwyd rolau amser llawn iddynt. Yn ddiweddar cawson ni sgwrs â Lauren ac Atlanta i weld sut hwyl maen nhw’n ei gael.

Conor, Lauren, Atlanta a Courtney

“Fe wnaeth Dyfodol sicrhau proses didrafferth o ran chwilio am swyddi. Ces gynnig cymorth ganddynt wrth astudio’r cwrs gradd, ac fe fynychais Ffeiri Recriwtio, sgyrsiau ar yrfaoedd a derbyniais gyngor ar gwmnïau cyfrifeg lleol. Fe wnaeth y cymorth pellach ar sut i greu CV a’r gweithdai ar gyfweliadau wella fy ngwybodaeth am ymgeisio am swyddi a gwella fy hyder wrth wneud ceisiadau amdanynt. Dw i’n mwynhau fy amser yn Bevan Buckland; mae’r cwmni yn gefnogol iawn o bobl sy’n ymgymryd â chyfleoedd astudio pellach wrth ennill gwybodaeth ymarferol, a bydda’ i’n dechrau astudio cymhwyster ACA ym mis Mawrth.” – Atlanta

“Ces i brofiad da iawn wrth weithio gyda thîm Dyfodol ac fe wnaeth y sesiynau cyflogadwyedd fagu fy hyder wrth wneu ceisiadau am swyddi. Dw i’n mwynhau fy amser yn Bevan Buckland ac rydw i wedi setlo i mewn yn dda. Braf yw gweithio mewn sector rydw i wedi bod yn ei astudio ers pum mlynedd, ac mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i dderbyn gan Bevan Buckland yn ystod y cyfnod pontio wedi bod yn wych. Maen nhw hefyd yn cyfrannu at fy astudiaethau fel y galla i gymhwyso’n llawn. Dw i wedi cymryd y camau cyntaf i ddechrau astudio gyda Bevan Buckland ac rydw i wedi cofrestru ar gwrs ACA.” – Lauren

Yn ogystal â Daniel, Saliem, Lauren ac Atlanta, mae Courtney a Conor wedi cyrchu cymorth Hyb Cyflogaeth Ffordd y Brenin gyda’r bwriad o sicrhau gyrfaoedd ym maes cyfrifeg.

Penderfynodd Courtney ei bod hi am ddilyn rôl hyfforddi yn hytrach na pharhau ag addysg ac fe dderbyniodd gymorth gan y tîm i ddod o hyd i gyfleoedd a oedd yn berthnasol i’w chymwysterau a’i nodau gyrfa. Derbyniodd help i gyflwyno ceisiadau am rolau cyfrifeg ac roedd hi’n hapus iawn o sicrhau rôl gyda Bevan Buckland.

“Ces i brofiad positif iawn wrth weithio â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Dw i’n mwynhau fy amser gyda Bevan Buckland; mae pawb wedi fy nghefnogi ac maen nhw mor groesawgar. Yn ddiweddar, fe wnes i gwblhau cymhwyster NVQ mewn Gweinyddu Busnes, ac rydw i nawr yn astudio cwrs Uwch Technegydd Cyflogres i wella fy ngwybodaeth am gyflogresi. Dw i’n ddiolchgar iawn i GSGD am yr holl help maen nhw wedi’i roi i fi.” – Courtney

Pan gysylltodd Conor â thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol roedd yn gweithio fel Uwch Weinyddwr Archwilio. Ond, roedd e am gymryd y cam nesaf ar ei daith gyrfa trwy geisio sicrhau rôl gyllid a chyfleoedd hyfforddiant a dilyniant. Felly, gweithiodd Conor yn agos â’i Hyfforddwr Gyrfa i chwilio am gyfleoedd yn y sector lle gallai ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd yn ei rôl bresennol. Ar ôl diweddaru ei CV a chyflwyno ceisiadau, cafodd Conor gyfweliad gyda Bevan Buckland ac fe wnaeth ei Hyfforddwr Gyrfa ei helpu drwy’r broses. Cafodd gyfweliad da iawn a chafodd gynnig rôl dan hyfforddiant.

“Mae gweithio gyda GSGD wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn. Cefais fy nghyflwyno i Hyfforddwr Gyrfa yn gyflym er mwyn rhoi trefn ar y broses o chwilio am swydd a derbyniais gyngor ar sut i greu CV ac ateb cwestiynau cyfweliadau. Rhoddodd hyn yr hyder yr oedd ei angen arnaf i ddod o hyd i rôl addas. Ers dechrau’r rôl ym mis Hydref 2022, dw i wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth ymarferol, diolch i rinweddau meithringar uwch staff Bevan Buckland. Dw i hefyd wedi medru symud ymlaen gyda fy astudiaethau yn ystod y cyfnod hwn. Dyma gyfle na fyddwn i wedi ystyried yn bosib heb gymorth GSGD. Dw i’n sicr yn argymell unrhyw un sy’n chwilio am gymorth i ddod o hyd i swydd addas i gysylltu â’r tîm i weld beth allan nhw ei wneud i chi.” – Conor

Rydyn ni’n falch iawn o’r bartneriaeth wych sydd wedi datblygu rhyngom ni a Bevan Buckland ac rydym yn gyffrous i barhau i gydweithio.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Bevan Buckland dros y pum mlynedd diwethaf i gefnogi’r busnes i recriwtio a chadw’r dalent orau. Rwy’n falch iawn o weld cymaint o’n dysgwyr yn symud ymlaen i rolau gwych ac rwy’n hyderus y bydd y berthynas yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth i ni gefnogi tîm Bevan Buckland i ddatblygu eu gweithlu” – Cath Jenkins, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, Coleg Gŵyr Abertawe

“Mae ein partneriaeth a’n hymgysylltiad hirsefydlog â GSGD ac Academi Dyfodol Coleg Gŵyr Abertawe yn hwyluso’r gwaith o sicrhau y gallwn gynnig rhyngweithiadau a mewnwelediadau realistig a pherthnasol i’n gweithle, ein sector a’r sgiliau cyflogadwyedd rydym am i’n gweithlu eu datblygu.

Trwy weithio’n agos â GSGD gallwn gael mynediad at ddarpar weithwyr sy’n derbyn cymorth gan ymgynghorwyr sydd â mewnwelediad penodol i’r diwydiant. Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan GSGD a Choleg Gŵyr Abertawe megis ffeiriau recriwtio a gyrfaoedd, ac rydyn wedi cynnig sesiynau cyflogadwyedd i fyfyrwyr, gan gynnig cyngor gyrfa penodol iddynt mewn amgylchedd ystafell ddosbarth. 

Fel cyflogwr lleol, rydym am roi cipolwg go iawn ac ymarferol ar y cyfleoedd gyrfa y gallwn eu cynnig, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddarpar weithwyr proffesiynol, er mwyn eu galluogi i wireddu eu potensial llawn.”  – Vanessa Thomas-Parry, Prif Swyddog Gweithredu – Bevan Buckland LLP.

Torri cwys ym myd lletygarwch – Stori Jasmine

Roedd Jasmine yn astudio cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe pan gysylltodd â thîm Dyfodol i gael cymorth ar ddod o hyd i swydd ran-amser i gyd-fynd â’i hastudiaethau. Ar ôl penderfynu nad oedd hi am fynd i’r brifysgol, canolbwyntiodd Jasmine ar sicrhau swydd er mwyn ennill sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad o’r byd go iawn. Derbyniodd hi gymorth gan ei Hyfforddwr Gyrfa, ac fe wnaethon nhw’n dau chwilio am gyfleoedd addas yn y sector lletygarwch. Yn y pendraw fe ddaethon nhw o hyd i rôl Gwneuthurwr Pwdinau mewn bwyty pwdinau lleol o’r enw Treatz.

Gweithiodd gyda’i Hyfforddwr Gyrfa i greu CV o’r radd flaenaf, ac fe gymerodd rhan mewn sawl ffug gyfweliad i fagu hyder. Perfformiodd hi’n wych yn ei chyfweliad a chafodd gynnig swydd ran-amser yn y fan a’r lle.

Roedd hi am archwilio ei hopsiynau ôl-addysg ymhellach, felly cynigiodd ei Hyfforddwr gyrfa iddi fynd at Academi Dyfodol – rhaglen o weithgareddau sy’n datblygu llwybrau gyrfa i fyfyrwyr, gyda’r nod o sicrhau eu bod yn symud yn syth i fyd gwaith neu brentisiaeth ar ôl cwblhau prentisiaethau neu gyrsiau safon uwch. Ar ôl pwyso a mesur ei hopsiynau, penderfynodd Jasmine ffocysu ar gyfleoedd cogyddion dan hyfforddiant yn y sector lletygarwch; roedd hi’n mwynhau ei swydd ran-amser cymaint ac fe ddatblygodd angerdd am fwyd ac amgylchedd y gegin.

Ar ôl gadael y Coleg, aeth Jasmine i weld criw gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i gael cymorth parhaus. Awgrymodd Hyfforddwyr Gyrfa Jasmine y dylai hi gofrestru ar gwrs hylendid bwyd i ennill rhywfaint

o sgiliau perthnasol, felly gwnaeth hi’r mwyaf o’r cyfle a chwblhaodd y cwrs â marciau da iawn. Gweithiodd y tîm yn ddiflino i chwilio am gyfle addas ar ei chyfer, ac fe ddaethon nhw o hyd i gyfle perffaith: rôl Cogydd Dan Hyfforddiant yn Forage Farm Shop & Kitchen, cwmni clodfawr iawn. Yn y rôl, cafodd gyfle i weithio ochr yn

ochr â’u Prif Gogydd a thîm cefnogol sy’n angerddol am gynnyrch lleol ac arferion ffermio cynaliadwy. Roedd Jasmine yn gyffrous iawn am y cyfle, felly penderfynodd gyflwyno cais; fe wnaeth hi argraff dda iawn ar y cyflogwr a chafodd gynnig y rôl yn syth.

Mae Jasmine bellach wedi bod yn y rôl ers rhai misoedd ac mae hi’n gwneud cynnydd gwych. Braf yw gweld ei hymrwymiad at ddatblygiad parhaus wedi iddi ddechrau prentisiaeth ym mis Medi fel Cogydd Commis.

“Rydyn ni’n falch iawn o weld Jasmin yn ymuno â’n tîm fel Cogydd Dan Hyfforddiant. Mae tîm cegin Forage wedi ennill enw da iawn i’w hun dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydyn ni’n gobeithio bydd Jasmine yn dysgu llawer ac yn mwynhau’r hyfforddiant. Rydyn ni’n datblygu prosiect cyffrous iawn a braf yw medru rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni.” – Tom Homfray, Perchennog Forage Farm & Kitchen.

Mae teuluoedd yn hyblyg ac addasadwy, yn union fel ein cymorth ni!

Mae ein intern newydd, Justas, yn gwybod pob dim am gymorth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ond a oeddech chi’n gwybod bod ei frodyr wedi derbyn cyngor gan ein tîm, ac wedi elwa o’n cymorth?

Roedd brawd hŷn Justas, Karolis, yn gweithio fel Technegydd TG Dan Hyfforddiant i Goleg Gŵyr Abertawe pan aeth i gwrdd â thîm Dyfodol, sy’n rhedeg Biwro Chyflogaeth a Menter y Coleg, am y tro cyntaf. Gyda diddordeb brwd mewn symud ymlaen i swydd Technegydd TG, ond yn ansicr ynghylch y broses ymgeisio a sut i ymgymryd â chyfweliadau, aeth Karolis i weld Hyfforddwr Gyrfa i ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i alluoedd. Ar ôl derbyn hyfforddiant a mentora un-i-un, magodd Karolis hyder a dysgodd sgiliau newydd,  gwerthfawr. Cyflwynodd gais am gyfle dilyniant mewnol a chafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer y rôl. Ar ôl gwaith paratoi a sawl ffug gyfweliad gyda thîm Dyfodol, fe wnaeth e’n dda iawn a llwyddodd i sicrhau dyrchafiad i rôl Technegydd TG!

“Mae’r gwaith rydych chi wedi ei wneud gyda Karolis wedi talu ar ei ganfed. Roedd y cyfweliad yn wych, ac roedden ni i gyd yn gytûn ei fod yn berson gwahanol i’r un a fynychodd y cyfweliad cyntaf. Roedd e’n addfwyn, yn glir, yn broffesiynol iawn ac fe atebodd bob cwestiwn yn gryno, gan gynnwys gwybodaeth berthnasol ac enghreifftiau, lle bo’n briodol. Fe wnaeth e’n dda iawn, ac fe lwyddodd i sicrhau dyrchafiad o Dechnegydd TG dan hyfforddiant i Dechnegydd TG. Mae’r tîm cyfan yn hapus gyda’r canlyniad, Diolch am eich help gyda’r broses, ac am wneud gwahaniaeth i fywyd Karolis a’r Tîm Gwasanaethau Cyfrifiadurol.” – Richard Thorne, cyn Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifiadurol

Roedd brawd iau Karolis, Laimis, yn ymweld â Hyb Dyfodol yn rheolaidd yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe. Mae e’n gymeriad cymdeithasol a chlên ac fe roedd yn mynd i’r Hyb i dderbyn cyngor gan hyfforddwyr gyrfa ac i sgwrsio am gynigion. Ar ôl ei gyfnod fel Llywydd, ac yn dilyn cymorth a chyngor gan dîm Dyfodol, penderfynodd Laimis ail-gofrestru fel myfyriwr i astudio cwrs mewn Busnes. Gwerthfawrogodd Laimis yr holl gymorth, yn enwedig wrth archwilio ei opsiynau, ac o ganlyniad teimlodd ei fod yn medru gwneud penderfyniadau gwybodus. Ar ôl profiad cadarnhaol, ac wrth brofi buddion ar ôl derbyn ein cymorth, cyfeiriodd Laimis ei frawd iau, Justas, at dîm Dyfodol, i gael help i archwilio ei opsiynau a chynllunio ei daith gyrfa ei hun.

Fe aeth Justas, y plentyn ieuengaf, at dîm Dyfodol i dderbyn cymorth i sicrhau swydd ran-amser i redeg ochr yn ochr â’i gwrs Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. I gychwyn, roedd ganddo uchelgeisiau mawr o weithio yn y diwydiant eiddo tirol, felly roedd yn awyddus i ddechrau ei yrfa a’i daith gyrfa trwy ennill sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, i’w baratoi ar gyfer byd gwaith. Derbyniodd gymorth gan dîm Dyfodol i chwilio am swydd addas ac i wella a theilwra ei CV i rolau perthnasol. Cyflawnodd Justas gynnydd yn gyflym a chafodd ei wahodd i gyfweliad ar gyfer rôl manwerthu ran-amser. Gwnaeth e’n dda iawn yn y cyfweliad a llwyddodd i sicrhau’r rôl. Ond, ni ddaeth y cymorth i ben ar ôl hyn! Roedd Justas yn awyddus i sicrhau swydd yn y diwydiant eiddo tiriog, ac roedd y tîm yn hapus i’w helpu i archwilio ei gamau nesaf, gan ei roi ar y llwybr gorau posib i wireddu ei freuddwydion. Penderfynodd Justas ei fod am ennill profiad mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, lle gallai wella ei sgiliau gweinyddu a threfnu, felly fe aeth ar drywydd cyfle newydd. Awgrymodd Sarah, Ymgynghorydd Recriwtio, iddo ddilyn trywydd interniaeth Haf a gynigiwyd gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, i gael cyfle i gefnogi gweithgarwch marchnata a gweinyddu ystod eang o brosiectau. Bachodd Justas ar y cyfle a chwblhaodd gais rhagorol am y rôl. Cafodd ei wahodd i gyfweliad, ac ar ôl ymgymryd â ffug gyfweliadau gyda Sarah, gwnaeth Justas gryn argraff ar y panel gyda’i agwedd gadarnhaol a’i barodrwydd i ddysgu, ac fe sicrhaodd y rôl.

Dechreuodd Justas ei swydd ym mis Gorffennaf ac mae ef wedi bod yn gaffaeliad gwych i’r tîm; yn ystod ei amser gyda’r tîm derbyn, mae Justas eisoes wedi ennill llawer iawn o sgiliau trosglwyddadwy ac wedi darganfod angerdd am gwblhau tasgau trefnu a gweinyddu. Mae e’n ennill profiad gwaith gwerthfawr bob dydd ac yn camu’n nes ac yn nes at gyflawni ei nodau gyrfa. Rydyn ni’n falch iawn o gael Justas yn rhan o’r tîm a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth parhaus iddo i sicrhau ei fod yn gwireddu ei freuddwydion.

“Roedd yr hyfforddwyr a weithiais â nhw yn gymwynasgar ac yn angerddol am eu gwaith, ac fe wnaethon nhw’n siŵr fy mod yn sicrhau fy swydd ddelfrydol. Mae GSGD wedi fy helpu i sicrhau’r swydd ro’n i ei heisiau, ac rwy’n hynod o ddiolchgar.” – Justas

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ei gynnig, cysylltwch â’r tîm 01792 284450, info@betterjobsbetterfutures.wales.

Stacey Turner

Mynychodd Stacey sesiwn datblygu Staff y GIG a gynhaliwyd gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, er mwyn cyflawni cynnydd yn ei rôl. Roedd Stacey yn gweithio fel Nyrs Cyswllt Iechyd Meddwl ond yn dymuno cymryd y cama nesaf ar ei thaith gyrfa. Gyda chefnogaeth Lynsey, Hyfforddwr Gyrfa, daeth hi o hyd i’r cyfle perffaith ac fe dderbyniodd help ar lunio cais. Cynhaliodd Lynsey ffug gyfweliadau i wella hyder a sgiliau Stacey, ac ar ôl ymdrechu ac ymroi yn llwyr, fe wnaeth hi’n wych yn ei chyfweliad a chynigiwyd rôl iddi fel Ymarferydd Iechyd Meddwl Galwedigaethol!

Mae Stacey bellach yn chwarae rhan flaenllaw yn ei thîm newydd, gan ddatblygu gwasanaeth iechyd meddwl er mwyn darparu asesiadau atgfeirio i gleientiaid yn y gweithle. Ers dechrau ei rôl newydd, roedden ni’n hapus i’w chroesau hi i ddod i mewn i ddarparu dwy sesiwn i staff Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar iselder, gorbyrder, atal hunanladdiad a chymorth cyntaf. Mae sesiynau eraill eisoes wedi eu trefnu a braf yw bod yn rhan o ddatblygiad parhaus Stacey ar ei thaith gyrfa anhygoel.

“Trwy drafod fy nyheadau gyda fy Hyfforddwr Gyrfa, datblygais well dealltwriaeth o fy hun a’m nodau. Fe wnaeth y gefnogaeth fy helpu i fagu hyder, gwella fy sgiliau ‘gwneud penderfyniadau’ ac fe dderbyniais dechnegau a sgiliau defnyddiol iawn i’w defnyddio mewn cyfweliadau. Mae’r rôl arwain hon yn caniatáu i mi ddefnyddio fy holl gymwysterau blaenorol, fy sgiliau trosglwyddadwy, yn ogystal â darparu llwyfan i mi ddatblygu gwasanaethau trugarog, holistaidd sy’n diwallu fy ngwerthoedd personol a phroffesiynol.” – Stacey

Os ydych chi am dderbyn cymorth i symud ymlaen yn eich gyrfa, neu cymorth i ddod o hyd i rôl newydd, cysylltwch â’r tîm i ddarganfod sut y gallwn eich helpu:

01792 284450 | info@betterjobsbetterfutures.wales

Dyma Jade!

Cyn y pandemig, roedd gan Jade ddwy swydd ym maes lletygarwch i gynnal ei hun ac i ddatblygu ei sgiliau cyflogadwyedd, ac wrth weithio yn y rolau hyn, daeth o hyd i’r hyn roedd hi am ei wneud fel gyrfa hirdymor. Mae Jade yn artistig iawn ac roedd eisiau gwneud y mwyaf o’i sgiliau, ond nid oedd yn medru penderfynu pa lwybr fyddai’n fwy addas i’w ar ei chyfer; addysg, cyflogaeth neu brentisiaeth.

Yn ystod y pandemig cafodd Jade ei rhoi ar ffyrlo, ond gan ei bod yn unigolyn penderfynol iawn fe welodd hyn fel cyfle positif, yn hytrach na her. Dechreuodd Jade astudio cyrsiau ar-lein i ddatblygu ei chelf a’i sgiliau arlunio. Roedd hi’n ymrwymedig iawn i’r cyrsiau ac fe arweiniodd hyn at y posibilrwydd o weithio fel arlunydd tatŵ.

Defnyddiodd Jade ddull strategol i gyflawni ei nod ac fe gofrestrodd ar gwrs ymarferol lle ddatblygodd ei sgiliau artistig ymhellach, gan fagu blas am arlunio anifeiliaid – dewis poblogaidd iawn ar gyfer tatŵs.

Mae Jade hefyd yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe, gan gynnal sesiynau addysgol i ymwelwyr a phlant ysgol. Mae hyn yn ffordd dda iawn o wella ei hyder a’i sgiliau trosglwyddadwy. Mae hi hefyd ar fin dechrau hyfforddiant i ddod yn Swyddog Addysgol yn y ganolfan, sy’n profi unwaith eto ei bod hi’n berson ymroddedig.

 

Gyda chymorth parhaus Angela, Hyfforddwr gyrfa, mae Jade bellach yn ymgeisio am gyfleoedd cyflogaeth i gynnal ei chymhelliant, wrth iddi aros yn amyneddgar am gyfle Prentisiaeth Arlunydd Tatŵ yn yr ardal leol. Mae hi’n enghraifft berffaith o sut y gall gynllunio ar gyfer y dyfodol ac archwilio opsiynau weithio o’ch plaid wrth geisio cyflawni eich nodau; mae hi’n llwyr ymroddedig i’w chrefft a’i uchelgeisiau tymor hir. Mae ei hangerdd yn heintus ac yn ysbrydoledig.

“Dw i wedi derbyn cymorth un-i-un i greu C.V, ceisiadau ac i chwilio am swyddi. Byddwn wedi cael cryn drafferth yn gwneud hyn ar fy mhen fy hun ac mi roedd hi’n wych i dderbyn help i gyfathrebu yn fwy proffesiynol. Diolch i chi am eich cymorth ystyrlon” – Jade

Dyma Catrin!

Fe ddatblygodd Catrin angerdd am drin gwallt wrth wirfoddoli mewn salon gwallt lleol, ac fe benderfynodd gofrestru ar gwrs Trin Gwallt Lefel 1 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Oherwydd anabledd sy’n effeithio ar ei dwylo a’i chymalau, roedd natur ymarferol y cwrs yn hynod o heriol i Catrin. Er gwaethaf y ddawn a’r brwdfrydedd yr oedd yn ei ddangos yn ei gwaith ysgrifenedig, roedd Catrin yn siomedig na allai symud ymlaen ymhellach, ac fe roedd yn teimlo ei breuddwyd yn cwympo y tu hwnt i’w gafael. Nid oedd yn gwybod at ble i droi am gefnogaeth. Felly, fe gyfeiriodd tiwtor Catrin hi at gymorth Dyfodol, er mwyn archwilio ei hopsiynau.

Trwy gymorth un-i-un, fe ddaeth Lisa, Hyfforddwr gyrfa, i nabod Catrin ac roedd yn glir ei bod ganddi hi ddawn yn gweithio â phlant ifanc; mae ganddi nai ifanc y mae hi’n ei garu ac mae hi’n gofalu amdano’n rheolaidd. Awgrymodd Lisa y dylai Catrin archwilio opsiynau gofal plant; ar ôl cael ei chyffroi gan yrfa posib newydd, ac yn meddu ar angerdd am gyflawni cynnydd mewn perthynas â’i llwybr gyrfa, symudodd ymlaen yn llwyddiannus i gwrs gofal plant Lefel 1.

“Roedd Lisa fy Hyfforddwr Gyrfa yn hynod o gefnogol gyda fy nghynlluniau gyrfaol ac fe dderbyniais lawer o help i ddewis y llwybr cywir. Dw i bellach yn deall nad trin gwallt oedd yr yrfa i mi a chefais fy annog i ddewis gofal plant oherwydd dw i’n dda iawn yn gofalu am fy nai ac rwy’n hoff iawn o chwarae gyda phlant. Diolch Lisa am fy nghefnogi. Fe wnes di fy ysbrydoli i ddilyn prentisiaeth. Diolch am fy helpu i weithio tuag at wireddu fy mreuddwyd, ac ro’n i wrth fy modd o ennill gwobr Prentis y Flwyddyn” – Catrin

Fe wnaeth gwaith caled, gwydnwch ac agwedd gadarnhaol Catrin greu argraff yn syth ar ôl iddi ddechrau ei chwrs; roedd ei phresenoldeb yn wych, cwblhaodd bob un darn o waith ar amser ac i safon uchel, ac roedd hi bob amser yn barod i gefnogi ei chyfoedion. Ni chafodd ei hymdrechion eu hanwybyddu, a chafodd ei henwebu ar gyfer Myfyriwr y Flwyddyn yng ngholeg Gŵyr Abertawe.

Wrth i Catrin dynnu at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf o astudio, roedd hi’n awyddus i barhau i ddysgu a chael mwy o brofiad ymarferol, gan symud ymlaen i brentisiaeth, yn hytrach nag addysg amser llawn. Gan gymryd rheolaeth dros ei dyfodol a gwneud newidiadau cadarnhaol a oedd yn gweddu i’w hanghenion, penderfynodd Catrin ymgeisio am brentisiaeth gyda meithrinfa Noah’s Ark. Roedd hi wrth ei bodd pan gafodd gynnig y brentisiaeth.

Mae hi bellach yn mynd o nerth i nerth yn ei rôl ac yn gwneud cynnydd anhygoel o ran ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Cydnabuwyd ei gallu i oresgyn ei rhwystrau corfforol â brwdfrydedd a phositifrwydd pan enillodd hi wobr Prentis y Flwyddyn Coleg Gŵyr Abertawe 2022.

“Mae Catrin yn wych gyda’r plant. Mae hi’n gweithio’n galed i’w cadw’n brysur a hapus, ac mae hi bob amser yn helpu staff gyda thasgau dydd-i-ddydd. Rydyn ni’n dwlu ar weithio gyda hi ac yn falch iawn o’r hyn mae hi wedi ei gyflawni” – Meithrinfa Noah’s Ark

Mae Catrin yn ysbrydoliaeth, ac yn dangos y gall unrhyw un gyflawni ei nodau, waeth beth fo’i heriau. Mae ei hagwedd ysbrydoledig tuag at ddysgu wedi cael effaith gadarnhaol iawn arni hi ei hun, ei chyfoedion, ei thiwtoriaid a’i theulu. Rydyn ni’n falch iawn ohoni.

Dyma Andrew!

Mae gan Andrew, 53, brofiad helaeth o weithio mewn ystod eang o rolau gwahanol, yn ogystal â phrofiad o reoli ei fusnes ei hun.

Fe weithiodd i gwmni cerbydau Ford am sawl blwyddyn, cyn symud ymlaen i rôl logisteg. Ar ôl hyn, fe benderfynodd ddechrau ei fusnes ei hun, D Car Deals Brokerage. Roedd ei fusnes yn ymwneud â gwerthu cerbydau i 27 o ddelwriaethau cerbydau ledled y DU, ac mi roedd yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar y broses drafodion.

Yn ei amser hamdden roedd Andrew hefyd yn ffotograffydd hunangyflogedig, ac roedd ganddo nifer fawr o gleientiaid megis y BBC, Daily Mail, The Guardian, URC a Llywodraeth Cymru. Gan ddilyn ei angerdd, penderfynodd Andrew ffocysu ar ffotograffiaeth, ac fe arweiniodd hyn at gyfleoedd ledled y byd. Treuliodd amser yn tynnu lluniau i gylchgronau a phapurau newydd byd enwog.

Yn anffodus iawn, fe gafodd Andrew strôc yn 2013, ac ers hynny nid yw wedi gallu sefyll, cerdded na siarad heb gryn anawsterau. Fe wnaeth hyn gael effaith negyddol ar annibyniaeth Andrew a’i allu i redeg ei fusnes ei hun. Ond yn lle derbyn ei fod wedi’i drechu, penderfynodd Andrew ddefnyddio’r profiad hwn fel mantais.

“Mae’r digwyddiad ysgytwol hwn wedi fy ngwneud yn eiriolwr i bobl ag anableddau. Mae’n bwysig i mi fod pawb yn cael cyfleoedd mewn bywyd i ffynnu, gan fanteisio i’r eithaf ar eu potensial” – Andrew

Fe ddaeth Andrew yn fodel rôl Syniadau Mawr Cymru, gan ymgysylltu â phobl ifanc i hybu entrepreneuriaeth a mentoriaeth yn ogystal â gweithio fel Ymgynghorydd i Brifysgol Abertawe, gan ddod o hyd o ffyrdd i rannu ei arbenigedd a gwybodaeth er mwyn helpu prosiectau a chymunedau lleol i gael effaith gadarnhaol ar les.

Mae Andrew bellach yn chwilio am gyflogaeth barhaol lle gall weithio gydag unigolion sy’n dymuno hwyluso newidiadau cadarnhaol, gan gynnwys cyflogwyr a all ganiatáu i rai sydd ag anableddau deimlo’n gyfforddus wrth ymgeisio am rolau, ynghyd â rhoi addasiadau ar waith i’r rhai sydd eu hangen.

Mae Andrew yn ysbrydoliaeth i bawb, ac edrychwn ymlaen at ei gefnogi ar ei daith gyrfa, wrth iddo gyflawni ei nod o newid y byd er gwell, un person ar y tro.

Dyma Courtney!

Fe wnaeth Ashmole & Co, un o gwmnïau cyfrifyddiaeth mwyaf blaenllaw Cymru, recriwtio Courtney fel Prentis Gweinyddu Busnes ym mis Medi, ar ôl iddi gwblhau ei chyrsiau safon uwch mewn Saesneg (iaith a llen) a Chymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae hi’n mynd o nerth i nerth yn ei phrentisiaeth ac yn ennill profiad gwerthfawr iawn ym mhob agwedd ar weithrediadau busnes megis TG, AD a’r Gyflogres. Mae Courtney hefyd yn derbyn cymorth gwych gan ei chyflogwr, yn ymgymryd ag ystod eang o gyrsiau ar-lein ac mae hi’ gweithio tuag at ennill cymwysterau er mwyn cyflawni cynnydd yn gynt.

“Roedd dechrau swydd newydd yn ystod y pandemig yn anodd, ond mae’r cymorth a gefais gan Well Swyddi, Gwell Dyfodol, fy nheulu ac Ashmole & Co wedi bod yn galonogol iawn. Mae ymgymryd â phrentisiaeth yn opsiwn gwych i unrhyw un sydd eisiau ennill cyflog wrth ennill profiad yn y gweithle. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu sgiliau busnes newydd er mwyn eu cyfuno a’m sgiliau presennol. Rydw i a’m teulu yn hapus fy mod wedi derbyn y cyfle hwn i ennill cymwysterau wrth ennill profiad ymarferol cyfatebol.” – Courtney, Prentis

 

 

“Roedd angen unigolyn aml-ddawnus ar y busnes i ddarparu cefnogaeth gyffredinol, ac roedd gennym lawer i’w gynnig i rywun a oedd am ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd busnes. Mae recriwtio prentis wedi yn ffordd wych o ddatblygu gweithle hyfforddedig Ashmole & Co, a braint yw chwarae rhan yn natblygiad gyrfaol Courtney. Un o’r manteision mwyaf sy’n gysylltiedig â recriwtio prentisiaid yw eu bod nhw’n meddu ar agwedd wych, maent yn frwdfrydig ac yn awyddus i ddysgu. Os ydych chi’n cael cyfle i recriwtio prentis, ewch amdani, gwnewch y mwyaf o’r cyfle.” – Sarah Stallard, Rheolwr AD, Ashmole & Co

“Wnaethon ni weithio gyda Sarah o Ashmole & Co i’w helpu nhw gyda’r broses ynghylch recriwtio a chyflwyno prentis i’w busnes, ac fe wnaethon ni’n siŵr bod y brentisiaeth yn addas i’r rôl ac i’r busnes. Wnaethon ni weithio gyda’n gilydd i hysbysebu’r brentisiaeth a dod o hyd i’r ymgeisydd cywir. Rwy’n hapus iawn ein bod wedi dod o hyd i Courtney, sydd bellach yn mwynhau ennill cyflog a phrofiad.” – Beth Fisher, Ymgynhorydd Gweithlu

Dyma Alina…

Yn wreiddiol o Latvia, mae Alina wedi bod yn byw yn y DU am ddegawd, bellach. Mae hi’n 17 oed. Roedd hi’n awyddus i ddod o hyd i swydd yn y sector Peintio ac Addurno, ac fe wnaeth hi i dderbyn cymorth gan Well Swyddi, Gwell Dyfodol i ddiweddaru ei C.V, ennill cerdyn CSCS a chwilio am gyfleoedd priodol

Nid Saesneg yw mamiaith Alina, ac mae hi’n dod o deulu nad ydynt yn gweithio, felly mae hi wedi gorfod dibynnu ar lwfans cynhaliaeth addysg i’w chynnal ei hun yn ariannol. Roedd hi’n gwybod y byddai ceisio ffeindio prentisiaeth Peintio ac Addurno yn anodd, gan nad yw hi’n gyrru, ac mae’r rhan fwyaf o brentisiaethau Peintio ac Addurno yn nodi hyn fel gofyniad allweddol. Doedd hi ddim yn medru sicrhau cyflogaeth ran-amser chwaith gan ei bod yn gorfod gofalu am ei brodyr a’i chwiorydd gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Gyda chymorth Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, sicrhaodd Alina brentisiaeth yn syth a chwblhaodd hi bob un o’r arholiadau gofynnol. Cynigwyd y brentisiaeth iddi ar raddfa gyflog uwch ac mae cyflogwr Alina wedi bod yn gefnogol tu hwnt, ac maent am ei gweld yn datblygu mewn pob ffordd posib. Maen nhw hyd yn oed wedi cyfrannu’n ariannol tuag at wersi gyrru Alina.

“Yn ystod y cyfnod heriol hwn, wnes i dderbyn lot o gymorth. Ces lawer o help mewn gwersi a chydag adnoddau er mwyn ennill cerdyn CSCS, ac rwy’n ddiolchgar iawn eu bod wedi fy helpu i ddod o hyd i’m prentisiaeth. Roedd y tîm yn cysylltu â mi i yn barhaus, felly doeddwn ddim yn poeni o gwbl am fy nyfodol.” – Alina, Client

“Mae Alina Newydd gychwyn ei phrentisiaeth addurno gyda ni ac mae hi’n barod yn rhoi o’i gorau. Mae hi’n barod yn aelod gwerthfawr o’r tîm ac rydyn ni’n siŵr y bydd hi’n datblygu llawer yn y dyfodol. Ni fyddwn ni wedi dod o hyd i Alina oni bai am help Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Mae’r cymorth parhaus wedi bod yn wych ac rydyn yn sicr yn argymell eu gwasanaeth i unrhyw un sydd yn recriwtio.” – Gweithiwr, Gower Paint Pro