interview

Sylfeini cyfweliad

Rydych chi wedi’i wneud e; rydych chi wedi llwyddo i gael cyfweliad! Nawr mae’n amser gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i gael y swydd.  Read more

Byddwch ar y blaen – gwnewch eich gwaith ymchwil

Mae dangos eich bod chi wedi gwneud eich gwaith ymchwil ar gwmni yn hollbwysig ar gyfer unrhyw gyfweliad, ond ni fydd gwybod pryd y cafodd y cwmni ei sefydlu yn ddigon da yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni.  Dyma dri o’r cynghorau gorau a fydd yn sicrhau bod eich gwaith ymchwil yn eich helpu i sefyll allan.

  1. Gwybod y manylion

Dylech ystyried agweddau fel maint y cwmni, pwy yw ei gwsmeriaid a phwy yw ei brif gystadleuwyr.  Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn i ymchwilio’n ddyfnach a chael hyd i’r atebion i gwestiynau megis ydy’r cwmni yn cefnogi mentrau lleol?  Ydy’r cwmni yn arwain y farchnad yn ei faes?  Oes polisi “masnach deg” gan y cwmni?  Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan y cwmni felly neilltuwch amser i ddarllen trwy’r wybodaeth yn fanwl; mae deall gweledigaeth a gwerthoedd yn dangos bod gennych chi wir ddiddordeb yn y cwmni sydd y tu ôl i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani.

  1. Bod yn gymdeithasol

Mae pawb yn hoffi brolio am eu llwyddiannau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n debyg na fydd y cwmni rydych yn gwneud cais i ymuno ag ef yn wahanol yn hynny o beth.  Boed yn llun “dydd Gwener gwisgo dillad eich hun” ar Instagram neu ymgyrch codi arian ar Twitter, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o weld sut mae’r cwmni yn gweithredu.  Edrychwch ii weld pa sianeli cyfryngau cymdeithasol y mae’r cwmni yn eu defnyddio, y tôn a’r math o neges sydd fel petai’n cael ei chyfleu.  Bydd hyn yn helpu i lunio eich atebion yn y cyfweliad i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â syniadau’r cwmni ac yn eu hadlewyrchu’n briodol.

  1. Math o gyfweliad

Gall y math o gyfweliad amrywio o gwmni i gwmni ac mae mathau gwahanol o gyfweliad yn gofyn am ddulliau gwahanol.  Boed yn gyfweliad grŵp neu un-i-un, bydd pob cyfweliad yn gofyn am wahanol fath o baratoi.  Fel arfer caiff y math o gyfweliad ei esbonio i chi ymlaen llaw, ond gall gofyn am ragor o wybodaeth wneud argraff dda.  Gall awydd i wybod cynifer o fanylion â phosibl roi’r argraff eich bod chi’n frwdfrydig ynghylch cael y swydd, a gwneud argraff gyntaf gadarnhaol ar unrhyw ddarpar gyflogwr.

Os hoffech chi gael cymorth i baratoi ar gyfer cyfweliad neu unrhyw gymorth arall sy’n gysylltiedig â gyrfa, cymerwch y cam cyntaf a ffoniwch ni ar 01792 284450.

 

 

 

Bod ar flaen y gad: sut i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y cyfweliad hollbwysig ‘na

Symud rhwng rolau, wedi bod allan o waith ers tro, neu oes gennych ormod o gymwysterau ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani? Trwy wneud newidiadau bach i’r ffordd rydych yn gwneud cais am rolau gallech osgoi gwneud rhai camgymeriadau cyffredin a sicrhau bod eich cais ar ben y pentwr ‘Ie’. Read more