Byddwch ar flaen y gad – gwnewch argraff gyntaf wych

Pan fyddwch yn ddi-waith, gall aros am y cyfle swydd iawn eich gadael yn teimlo’n ddigalon ac yn ddiegni. Mae’n hawdd teimlo ofn a chywilydd ynghylch eich statws cyflogaeth, ond mae’n hynod bwysig i barhau i wthio’ch hun. Beth am gymryd rheolaeth dros y sefyllfa a chynyddu’r tebygolrwydd y byddwch yn y lle cywir ar yr adeg gywir pan mae’r cyfle swydd delfrydol hwnnw’n codi? Read more

Beth mae’ch Olion Rhithiol yn dweud amdanoch chi?

P’un ai’ch bod yn aficionado sy’n ymroddedig i gyfryngau cymdeithasol, neu rydych chi ond yn defnyddio rhai llwyfannau, gall y ffordd rydych chi’n portreadu’ch hun ar-lein gael mwy o effaith na fyddwch chi’n meddwl! Mae pob fideo rydych yn ei uwchlwytho, pob llun rydych yn ei ‘hoffi’ neu neges mae’ch post yn arwain at lunio darlun o bwy ydych chi, sef darlun y gall cyflogwyr gael mynediad hawdd iddo pan fyddant yn ceisio deall mwy am ddarpar weithiwr.  Ond peidiwch â phoeni, mae bod yn graff ar gyfryngau cymdeithasol yn rhwydd os ydych chi’n gwybod pa faglau i’w hosgoi, ac rydym wedi casglu awgrymiadau euraidd i sicrhau bod eich olion rhithiol chi yn amlwg am y rhesymau iawn. Read more

Job Search

Ffordd Fwy Effeithlon o Chwilio am Swydd

Mae pawb wedi bod yn y sefyllfa yma – chwilio drwy sawl peiriant chwilio sy’n honni mai nhw yw’r ‘ateb i ddod o hyd i swydd’. Rydych chi wedi cael hyd i’r swydd berffaith, wedi uwchlwytho eich CV ddiweddaraf wedi’i haddasu’n fedrus ac wedi clicio ar y botwm ‘ymgeisio nawr’ – ond does dim ymateb o gwbl.

Beth pe baem yn dweud wrthych chi bod ffordd fwy effeithlon o chwilio am swydd? Read more