Letter

Creu Llythyr Llwyddiannus i Gyd-fynd â Chais

Mae llythyrau’n gyfle i chi werthu eich hun i gyflogwr, ond beth ddylech chi ei gynnwys i gael yr effaith fwyaf? Read more

Test

Beth yw profion crebwyll sefyllfaol a sut ddylech chi ymdopi â nhw?    

Mae profion Crebwyll Sefyllfaol yn cael eu defnyddio gan rai cyflogwyr fel rhan o’u proses recriwtio ac maent yn debyg i brofion personoliaeth/seicometreg. Maent yn asesu sgiliau a medrusrwydd ymgeiswyr yn seiliedig ar ymatebion aml-ddewis i sefyllfaoedd, ac mae disgwyl i chi wneud un o’r canlynol:

  • Gosod ymatebion mewn trefn o’r mwyaf effeithiol i’r lleiaf effeithiol;
  • Dewis y weithred fwyaf priodol a lleiaf priodol; neu
  • Dewis y dull o weithredu cywir.

Ni fyddwch yn gwybod beth yw’r sefyllfaoedd ymlaen llaw ac efallai eich bod yn meddwl ei bod yn amhosib paratoi ar eu cyfer, ond dyma rai camau syml ddylai eich helpu i fod ar eich gorau.

Deall y cwmni   

Gwnewch ymchwil ar ei wefan fel byddech yn gwneud wrth baratoi ar gyfer y cyfweliad. Bydd ei ddatganiad o werthoedd a chenhadaeth yn rhoi gwybodaeth i chi am y camau gweithredu y byddai’n disgwyl i’w staff eu cymryd yn y sefyllfaoedd yma.

Deall y rôl

Edrychwch ar y disgrifiad swydd a manyleb y person. Ystyriwch y sgiliau sy’n ofynnol a’r math o unigolyn mae’r cwmni’n chwilio amdano.

Ymarfer, ymarfer, ymarfer

Bydd gwneud amser i ymarfer profion crebwyll sefyllfaol yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae’r cwestiynau’n cael eu geirio o leiaf, neu eu cynllun, a’r mathau o atebion a ddisgwylir.

Os hoffech gael cefnogaeth gyda pharatoi ac ymarfer ar gyfer profion barn sefyllfaol, ffoniwch ni ar 01792 284450.