Ade Howell

“Hoffwn i fod wedi credu yn fy hunan yn gynt”

Nid oes rhaid i chi ddeall popeth er mwyn symud ymlaen. Eisteddom ni gydag un o’n Hyfforddwyr Gyrfa, Ade, i drafod teithiau personol, dysgu’r grefft o hunangred a magu hyder i wneud cynnydd. Y canlyniad? Hanes rhyfeddol o onest gyda chyngor heb ei ail sy’n werth ei ystyried, beth bynnag yw’ch oedran.

Wnaethoch chi fwynhau’r Ysgol/Coleg?

Roedd yr ysgol yn heriol ar y naw i mi ac, yn bendant, doeddwn i ddim yn hoff iawn o’r lle. Wnes i roi’r gorau i fynd i’r ysgol yn 14 oed oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo’n gartrefol yno. Es i yn ôl am gyfnod byr i gwblhau fy nghwrs TGAU mathemateg, a dwi’n falch fy mod i wedi penderfynu gwneud hynny, ond ar y pryd roedd fy nheulu a’m ffrindiau wedi fy annog i i ddysgu crefft. Felly, es i i Goleg CNPT i ddilyn cwrs Gwasanaethu ac Atgyweirio Cerbydau Modur. Nesa, es i ymlaen i fwrw prentisiaeth mewn mecaneg, lle hyfforddes i i fod yn dechnegydd cerbydau. Yn anffodus, wnes i ddim mwynhau’r rolau hyn oherwydd doedd y math o waith ddim yn gweddu i’m personoliaeth na’m set sgiliau. Wnes i fwynhau datrys problemau ond wnes i ddim mwynhau undonedd y tasgau roedd rhaid i mi eu cwblhau o ddydd i ddydd. Roeddwn i’n awyddus i gael rôl fwy cyffrous ac anrhagweladwy fyddai’n ennyn fy niddordeb i, ac roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i wedi cael hyd iddi eto.

Oedd ‘na drobwynt yn eich gyrfa?

Yn bendant. Ces i sawl swydd labro dros y blynyddoedd ac ar ôl gweithio i werthwr glo, dechreues i weithio fel garddwr dan hyfforddiant ar randir ym Manwen. Roedd menyw glên yn gweithio ar y rhandir ac fe ddaeth hi’n fentor i mi gan fy ngwthio i wneud mwy o ran fy ngyrfa. Ces i’m hannog i wneud cais am swydd swyddog datblygu cymunedol dan hyfforddiant; ces i gymorth i lenwi’r ffurflen gais ac ymarfer technegau cyf-weld, ac roeddwn i’n ffodus iawn i gael gynnig y swydd! Roedd hyn yn drobwynt mawr i mi: roeddwn i wastad wedi bod yn gaeth mewn swyddi labro oherwydd roeddwn i’n cuddio y tu ôl i’m dyslecsia. Doeddwn i byth eisiau gwneud rhagor, oherwydd doeddwn i byth yn credu y gallwn i. Roeddwn i’n nerfys oherwydd yr hunanamheuaeth oedd wastad gyda mi yn dweud na allwn i ei wneud, ond am y tro cyntaf, roeddwn i’n llawn cyffro am y posibilrwydd o gael her bersonol newydd. A dweud y gwir, dyma’r tro cyntaf yn fy mywyd i rywun fy helpu i wneud y mwyaf o’m potensial.

Oes unrhyw benderfyniadau gyrfa rydych chi’n eu difaru?

Dwi ddim yn difaru dim. Nid y swyddi gorau oedd y swyddi labro o bell ffordd; roedden nhw’n oer, diflas ac yn gofyn llawer yn gorfforol, ond roedden nhw wedi fy helpu i gael dau ben llinyn ynghyd ac wedi rhoi rhyw synnwyr o bwrpas i mi. Dwi’n edrych yn ôl ar y rolau hynny nawr a sylweddoli pa mor bell dwi wedi dod ac maen nhw’n rhoi cymhelliant i mi ac yn fy atgoffa i’n barhaus na ddylwn i byth aros yn yr unfan ac y dylwn i wthio fu hun bob amser i wneud rhagor, er nad oeddwn i’n credu y gallwn i wneud hynny. Fyddai hi ddim yn iawn eu difaru – mae popeth yn dysgu rhwybeth i chi.

Cyngor gorau wrth wneud cais am swyddi?

Peidiwch â’ch tanbrisio’ch hun a chofiwch ddweud wrth bobl pa mor dda ydych; siaradwch yn gadarnhaol am eich sgiliau, eich profiad a’ch gwaith gwirfoddol a rhoi gwybod i bobl am eich llwyddiannau. Pan wnes i gais am swydd Ymgynghorydd gyntaf roeddwn i’n sicr y byddwn i’n cael fy ngwrthod. Pan ges i gynnig y swydd doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth a theimles i mor bositif am y dyfodol am y tro cyntaf ers amser maith. Mae cael hyder i wneud cais am y swyddi rydych yn awyddus iawn i’w cael, hyd yn oed pan gredwch na fyddwch chi’n eu cael, yn rhan fawr o’r broses ddatblygu – os nad yw’n eich herio, wnaiff hi ddim eich newid, ac mae newid yn beth da!

Y cyngor gorau ar gyfer gyrfa?

Dylech bob amser droi profiadau gwael yn brofiadau cadarnhaol y gallwch ddysgu ohonynt. Pan oeddwn i’n tyfu lan, roedd pobl wastad yn dweud wrtha i nad oeddwn i’n ddigon da, ac am gyfnod hir, roeddwn i’n credu hynny. Dim ond pan ddechreues i yn y Coleg y ces i wybod am fy nyslecsia, ac roeddwn i bob amser yn ceisio ei guddio. I unrhyw un sydd yn yr un sefyllfa, cuddio’r cyflwr yw’r peth gwaethaf y gallwch chi ei wneud. Nid yw dyslecsia yn ‘rhwystr’; dyw e ddim yn fy atal rhag gwneud unrhyw beth yn fy mywyd bob dydd fel roeddwn i’n meddwl y byddai. Roeddwn i’n meddwl bod y dyclecsia yn rhwystr ond yr unig rwystr oedd y meddylfryd hwnnw! Dwi wedi dysgu sut i siarad yn onest am fy ymdrechion, a dim ond nawr dwi’n sylweddoli pa mor haws yw bywyd a pha mor gefnogol, caredig ac ystyriol y gall pobl fod. Peidiwch ag ofni barn pobl eraill, oherwydd efallai eich bod chi’n meddwl bod sefyllfa’n negyddol, ond, yn union i’r gwrthwyneb, gall eich helpu i fagu hyder a’ch gwthio ymlaen.

Beth yw’ch cyngor yn gyffredinol?

Dwi’n byw ar gyfer y foment i raddau helaeth a dwi’n gwneud y gorau o’r hyn dwi’n ei wneud yma ac nawr. Dwi’n wirioneddol hapus  a bodlon yn fy rôl fel Hyfforddwr Gyrfa oherwydd dwi’n mwynhau helpu pobl, gweithio gyda nhw a chwrdd â nhw, a dwi’n cael boddhad mawr wrth weld pobl yn newid eu bywydau er gwell. Dwi’n gallu uniaethu â llawer o’r straeon dwi’n eu clywed gan gleientiaid, a dwi’n annog a grymuso pobl i wneud gwahaniaeth positif i’w bywydau, oherwydd dwi’n gwybod y gall gael ei wneud, ni waeth pa mor amhosibl mae’n ymddangos ar y pryd. Ni waeth faint o weithiau mae pobl yn eich beirniadu, mae cyfle newydd bob amser ar gyfer dechrau newydd, i wneud newidiadau a gwella – dwi’n hoffi meddwl fy mod i wedi profi hynny. Mae pawb am roi’r ffidil yn y to weithiau, ond yr hyn sy’n cyfrif yw’r dewrder i barhau.

Mae Ade yn un o’n Hyfforddwyr Gyrfa sy’n gweithio ar ein safle yn Ffordd y Brenin, Abertawe. Mae ein hyfforddwyr yn cynnig cymorth un-i-un wedi’i deilwra ac maen nhw’n helpu pobl gyda’u holl anghenion cyflogadwyedd a gyrfa. Cysylltwch â ni i weld beth allwn ei wneud i chi: 01792 284450.